Site Logo

“OUR DREAM FARM WITH MATT BAKER (SERIES 2)” (teitl gweithredol) (y “Rhaglen”)

RHEOLAU CYMRYD RHAN

  1. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn ar ddydd Gwener 15 Mawrth 2024.
  2. Rhaid i chi fod yn breswylydd yn y DU (gan gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel).
  3. Os cewch wahoddiad, mae’n rhaid eich bod ar gael i fynychu ymweliad safle â Fferm Llyndy Isaf, fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri naill ai ar ddydd Mawrth y 7fed neu ddydd Mercher yr 8fed o Fai 2024 i ddysgu mwy am y fferm, y denantiaeth a’r gyfres deledu. Sylwch fod yn rhaid i chi sicrhau eich bod ar gael ar y ddau ddyddiad hyn a chi fydd yn gyfrifol am drefnu eich llety a’ch taith eich hun i Eryri ar gyfer yr ymweliad hwn.
  4. Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn proses ddethol arbennig o dair wythnos a gaiff ei ffilmio ar y safle y bwriedir ei chynnal ym mis Medi a Hydref 2024. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn byw oddi cartref mewn llety a drefnwyd ac y telir amdano gan y cwmni cynhyrchu yn Eryri. Gellir ychwanegu dyddiadau ffilmio ychwanegol mewn trafodaeth â chi.
  5. Mae’r broses ddethol yn cynnwys asesiad cynhwysfawr gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd hyn ar ffurf dau feirniad yn cynrychioli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r penderfyniadau a wneir yn ystod y broses ymgeisio yn ôl disgresiwn llwyr y parti a grybwyllwyd uchod. Mae’r penderfyniadau hyn yn derfynol ac yn ddi-ddadl.
  6. Mae’n rhaid i chi ddeall, os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais a’ch bod yn cyrraedd diwedd y broses ddethol, bydd disgwyl i chi ymrwymo i ymrwymiad cyfreithiol 15 mlynedd i dalu rhent fel y cytunwyd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid yw’r taliadau rhent yn rhan o’r rhaglen deledu a chyfrifoldeb y tenant fydd eu talu.
  7. Rhaid bod gennych rywfaint o brofiad a/neu gymhwyster mewn gweithio gyda da byw.
  8. Rhaid i’r holl wybodaeth a roddir gennych fel rhan o’r cais ar gyfer y rhaglen (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw gyhuddiadau troseddol, euogfarnau neu achosion) fod yn wir ac yn gywir ac ni fyddwch yn dal unrhyw wybodaeth yn ôl lle gofynnir amdani.
  9. Ar unrhyw gam o’r broses ymgeisio, rydych chi’n cytuno i awdurdodi Big Circus Media i gynnal gwiriadau cefndir er mwyn gwirio unrhyw wybodaeth rydych chi wedi’i darparu ac rydych chi’n cytuno i roi unrhyw gymorth neu wybodaeth bellach sy’n angenrheidiol i Big Circus Media i wneud hyn. Os oes gennym sail resymol dros amau bod unrhyw wybodaeth a roddwch yn anwir neu’n anghywir, mae gennym yr hawl i atal, terfynu neu ddileu eich cais. Gall y gwiriadau hyn gynnwys gwiriad DBS a gwiriadau ar eich holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
  10. Rydych hefyd yn cytuno y gall Big Circus Media gynnal gwiriadau iechyd (gan gynnwys er enghraifft profion ar gyfer Covid-19) yn ôl yr angen, i sicrhau eich bod yn ffit i gymryd rhan yn y Rhaglen, yn ogystal ag unrhyw gyfweliad byw yn ystod y broses ymgeisio. Rydych hefyd yn cytuno y gallwn gynnal asesiad seicolegol i wneud yn siŵr eich bod yn ffit i gymryd rhan yn y rhaglen.
  11. Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd cam ffilmio’r broses yn derbyn Cod Ymddygiad a phrotocolau a fydd yn ymdrin â covid (yn cynnwys profi), salwch arall a/neu anaf ac amgylchiadau esgusodol e.e. profedigaeth, a all arwain at fethu â chymryd rhan yn y ffilmio.
  12. Bydd Ymgeiswyr Wrth Gefn ar gael. Dim ond hyd at y dasg gyntaf sy’n cynnwys y broses o fwrw rhywun allan y bydd eu defnyddio hwy’n berthnasol, ar ddisgresiwn Big Circus, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Channel 4.Byddant wedi mynd drwy’r broses ymgeisio hyd at y pwynt ffilmio ynghyd â’r ymgeiswyr eraill, a byddant wedi cwblhau’r holl waith papur a gwiriadau cefndir angenrheidiol. Ni fydd y tîm wrth gefn yn cael aros yn llety’r cynhyrchiad, ond bydd cynllun trafnidiaeth ar waith i’w cludo i’r lleoliad ar unwaith mewn achos y bydd eu hangen i gamu i’r adwy.
  13. Rydych hefyd yn cytuno y gall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynnal proses gyfeirnodi gynhwysfawr er mwyn asesu eich addasrwydd ar gyfer y denantiaeth fferm a rhaid i chi gynorthwyo gyda’r broses hon. Bydd y gwiriadau hyn yn cynnwys: gwiriad hunaniaeth; dilysu eich incwm a rhwymedigaethau datganedig; cael geirdaon boddhaol ac adolygu eich hanes credyd blaenorol.
  14. Rydych hefyd yn cytuno y gall cynrychiolwyr o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ymweld â’ch fferm / neu le busnes presennol, os bydd gofyn.
  15. Bydd unrhyw ymgeisydd a fethodd fynychu’r diwrnodau ymweliad fferm yn cael eu hanghymhwyso o’r broses ac anfonir e-bost drwy’r wefan ddiogel yn eu hysbysu na fuont yn llwyddiannus. Bydd gofyn i bawb a fynychodd gwblhau eu ‘Ffurflen Ymgeisio Cam 3’, a fydd, ymhlith pethau eraill, yn gofyn i chi nodi mwy o fanylion am eich cynnig busnes drwy’r wefan ddiogel erbyn hanner nos ddydd Llun 27 Mai 2024. Bydd angen i chi hefyd gyflwyno fideo hyd at 2 funud amdanoch eich hun (bydd cefnogaeth ar gael i’r rhai sy’n gofyn am ffurflenni cais papur neu gymorth i greu’r fideo fesul achos) a CV. Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cam nesaf y broses, bydd gofyn i chi ysgrifennu eich cynlluniau busnes a’u cyflwyno i Big Circus Media. Byddant yn ffurfio rhan o’r broses ddethol arbennig yn ystod y cyfnod ffilmio a chânt eu rhannu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar amser priodol. Bydd gennych tan ddydd Gwener 23 Awst 2024 i gwblhau’r rhain. Noder, bydd eich cynigion busnes yn ymddangos yn y gyfres ac mae modd eu haddasu’n hwyrach ymlaen drwy gydol y broses os byddwch yn parhau.
  16. Eich bod yn deall, os gallai llwyddo yn eich cais ddwyn anfri mewn unrhyw fodd ar Big Circus Media, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu Channel 4, yna bydd hyn yn anghymhwyso eich cais.
  17. Rhaid i chi beidio â gweithio (nac wedi gweithio’n ddiweddar) i Big Circus Media, Yr
    Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu Channel 4 neu aelod cyswllt o’r naill neu’r llall. Fodd bynnag, os ydych yn denant presennol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yna rydych yn gymwys i gymryd rhan.
  18. Nid ydych yn berthynas agos (er enghraifft, mam, tad, mab, merch, brawd, chwaer) nac yn ffrind agos i unrhyw un sy’n gyflogai neu’n gontractwr Big Circus Media neu Channel 4 neu unrhyw un sy’n gweithio ar, yn ymddangos yn neu’n gysylltiedig â’r rhaglen.
  19. Mae penderfyniadau’r tîm cynhyrchu ynglŷn â’r broses ymgeisio a chyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen yn llwyr yn ôl eu disgresiwn, yn derfynol ac yn ddiwrthwynebiad.
  20. Rydych yn gwarantu bod unrhyw ddeunydd a gyflwynir gennych fel rhan o’ch cais, ar ba bynnag ffurf, gan gynnwys unrhyw ddeunydd ysgrifenedig, ffotograffau a fideos (“Deunydd”):
    – yn ddilys ac yn gywir ac yn wreiddiol i chi;
    – nad yw wedi’i gopïo na’i atgynhyrchu o unrhyw ffynhonnell gyhoeddedig, diriaethol nac electronig;
    – nad yw’n torri hawlfraint nac unrhyw hawl arall unrhyw drydydd parti;
    – nad yw’n ddifenwol, yn gableddus, yn anweddus nac yn ddirmyg llys;
    – ac nad yw’n torri unrhyw gontract, dyletswydd cyfrinachedd na hawl i breifatrwydd.
  21. Nid yw eich cyfranogiad yn y broses ymgeisio a chydymffurfio â hi yn gyfystyr â chytundeb neu ymrwymiad gan Big Circus Media i chi ymddangos yn y Rhaglen. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Big Circus Media i gynhyrchu’r Rhaglen a hyd yn oed os yw’r Rhaglen yn cael ei chynhyrchu nid oes unrhyw rwymedigaeth ar Big Circus Media, Channel 4 nac unrhyw barti arall i ddarlledu neu drosglwyddo neu fel arall ecsbloetio, hyrwyddo, rhoi cyhoeddusrwydd neu hysbysebu’r Rhaglen na’ch cynnwys chi yn y Rhaglen.
  22. Rhaid i chi bob amser gadw’r holl wybodaeth am y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen yn gwbl gyfrinachol a rhaid i chi beidio â rhoi unrhyw wybodaeth na deunydd i unrhyw un na gwneud unrhyw ddatganiad cyhoeddus na chyhoeddi unrhyw ffotograffau ar unrhyw adeg mewn unrhyw fodd (gan gynnwys ar flogiau, gwefannau a/neu lwyfannau rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter, Instagram, Facebook ac ati) am y broses ymgeisio neu gynhyrchu a/neu’r Rhaglen neu unrhyw berson arall sy’n ymwneud â phrosesau o’r fath. Mae’r cyfrinachedd hwn yn berthnasol ac yn parhau p’un a ydych yn cael eich dewis i gymryd rhan yn y Rhaglen neu’n parhau i fod yn rhan weithredol o’r Rhaglen. Ni chaniateir i chi ymateb i unrhyw gysylltiad gan y wasg nac unrhyw un arall sy’n ymholi am y broses ymgeisio neu gynhyrchu, unrhyw un arall sy’n ymwneud â’r broses a/neu unrhyw beth am y Rhaglen a byddwch yn cyfeirio unrhyw ymholiadau o’r fath yn syth at Big Circus Media.
  23. Ffurflenni cais ar-lein drwy’r wefan ymgeisio neu ffurflen gais drwy’r post, a anfonir ar gais, yw’r unig rai a dderbynnir gan Big Circus Media. Ni fydd Big Circus Media yn derbyn ceisiadau a anfonir drwy e-bost.
  24. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Sul 21 Ebrill 2024 (neu ddyddiad arall y gall Big Circus Media ei bennu) (y “Dyddiad Cau”). Os nad ydych wedi clywed gan aelod o dîm Big Circus Media dros y ffôn neu drwy e-bost erbyn hanner nos ddydd Gwener 3 Mai 2024, yna’n anffodus mae eich cais wedi bod yn aflwyddiannus.
  25. Gallwch ofyn ar unrhyw adeg i’ch cais gael ei dynnu’n ôl/ei ddileu drwy: (a) ysgrifennu atom yn Big Circus Media, 254 High Street, Berkhamsted, HP4 1AQ; neu (b) anfon e-bost (ar yr amod, yn achos cais ar-lein, bod e-bost o’r fath yn cael ei anfon gennych chi o’r cyfrif e-bost y gwnaethoch chi gofrestru ag ef), gyda’r pennawd pwnc ‘Dileu fy Nghais’ i farmapplication@bigcircus.co.uk gan roi eich enw llawn fel y mae’n ymddangos ar eich cais. Sylwch, os caiff eich cais ei dynnu’n ôl/ei ddileu cyn y Dyddiad Cau, ni fyddwch yn cael eich ystyried fel cyfranogwr posibl yn y Rhaglen oni bai eich bod yn gwneud cais pellach cyn y Dyddiad Cau, ac ni fyddwch yn gallu defnyddio’r Wefan Ymgeisio oni bai eich bod yn cofrestru eto.
  26. Mae’n rhaid i chi sefydlu un cyfrif mewngofnodi i’r Wefan Ymgeisio yn unig a dim ond unwaith y mae modd i chi wneud cais i’r rhaglen. Os yw Big Circus Media yn credu bod gan unrhyw ymgeisydd fwy nag un cyfrif mewngofnodi neu fod ymgeisydd wedi cyflwyno mwy nag un cais, efallai y bydd Big Circus Media yn penderfynu peidio ag ystyried yr ymgeisydd hwnnw i gymryd rhan yn y Rhaglen.
  27. Os ydych yn cynorthwyo neu’n gwneud cais ar ran rhywun arall – gan gynnwys os ydych yn gwneud cais fel cwpl/partneriaeth, rhaid i chi gael eu caniatâd cyn cyflwyno’r cais a rhaid i’r caniatâd a gynhwysir yn y cais gael ei roi gan yr ymgeisydd ei hun.
  28. Os ydych wedi gwneud cais drwy’r post, rydych yn cytuno y gallwn gopïo, addasu, cymryd detholiadau o a/neu uwchlwytho eich cais i’n systemau cyfrifiadurol a/neu wefannau a reolir gennym ni gan gynnwys heb gyfyngiad y wefan ymgeisio. Bydd ein defnydd o wybodaeth o’r fath ar y wefan ymgeisio yn cael ei lywodraethu gan y Polisi Preifatrwydd a’r Telerau ac Amodau.
  29. Eich bod yn deall, os byddwch yn gwneud cais, y gallwn rannu’r cais hwnnw, lle bo angen, â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a/neu Channel 4 fel y’i rheolir gan y Polisi Preifatrwydd.
  30. Trwy gyflwyno’ch Ffurflen Gais rydych yn gwarantu eich bod wedi darllen, deall a derbyn y Rheolau Cymryd Rhan hyn, y Telerau ac Amodau a’r Polisi Preifatrwydd, eich bod yn cytuno i unrhyw Ddata Categori Arbennig a/neu Gofnod Troseddol gael eu prosesu yn unol â’r Polisi Preifatrwydd a’ch bod yn gymwys i gymryd rhan yn y Rhaglen.
  31. Os gofynnir i chi gymryd rhan mewn galwad fideo wedi’i recordio ar gyfer y Rhaglen, gofynnir i chi lofnodi Ffurflen Rhyddhau Galwadau Fideo, sy’n llywodraethu eich cyfranogiad yn yr alwad honno/galwadau hynny.
  32. Os cewch eich dewis i gymryd rhan yn y Rhaglen, gofynnir i chi lofnodi Ffurflen Rhyddhau Cystadleuydd, sy’n llywodraethu telerau eich cyfranogiad yn y Rhaglen gan gynnwys Rheolau’r Rhaglen.
  33. Mae Big Circus Media yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r Rheolau Cymryd Rhan a/neu’r Dyddiad Cau hyn ar unrhyw adeg.