Site Logo

Mae ‘Our Dream Farm with Matt Baker’, cyfres deledu wyth rhan ar gyfer oriau brig Channel 4, yn ôl! Bydd yr ail gyfres yn cael ei ffilmio am bedair wythnos yn Eryri gan Big Circus Media a bydd saith ymgeisydd (unigolion neu gyplau / partneriaethau) yn dod at ei gilydd ar gyfer y cam olaf o ddewis tenant newydd ar gyfer fferm wag Llyndy Isaf, fferm Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yn Eryri.

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar eu cynlluniau busnes a’u gallu a’u hymagwedd at amaethyddiaeth, ffermio amgylcheddol ac adnewyddu trwy gwblhau cyfres o dasgau / profiadau byd go iawn, gyda’r ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei wahodd i gymryd tenantiaeth 15 mlynedd o’r fferm.

Ym mhob rhaglen bydd y darpar denantiaid yn ymgymryd ag un neu fwy o dasgau/profiadau cyn i’r aseswyr benderfynu pwy fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Mae llawer o dasgau/profiadau fferm y byd go iawn yn cynnwys prosesau sy’n helpu i wella’r tir neu’r adeiladau sydd ar gael ar y fferm. Bydd rhai yn digwydd ar ffermydd eraill a all fod yn yr ardal leol.

Cyflwynir y gyfres deledu gan Matt Baker a bydd yr aseswyr yn gynrychiolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd a ddewisir ymrwymo i gytundeb tenantiaeth safonol 15 mlynedd yn uniongyrchol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd y berthynas fasnachol hon, rhwng yr ymgeisydd a ddewisir a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rhwng y ddau barti yn unig ac ni fydd yn ymwneud â Big Circus nac unrhyw un o’i phartneriaid neu gysylltiadau. Nid yw’r brydles na’r holl daliadau rhent yn rhan o’r gyfres deledu a’r tenant yn unig fydd yn gyfrifol amdanynt.

Gall ymgeiswyr wneud cais naill ai fel unigolyn neu fel cwpl / partneriaeth.

Bydd ceisiadau’n cael eu trin yn gyfrinachol ond bydd ceisiadau llwyddiannus sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn cael eu rhannu, lle bo angen, gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Channel 4.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i weld y fferm ym mis Mai 2024. Oherwydd nifer yr ymholiadau a ddisgwylir, ni fydd Big Circus Media na’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gallu ateb unrhyw gwestiynau cyn y diwrnod gwylio.

Mae ceisiadau’n cau am hanner nos, dydd Mercher 21 Ebrill 2024. Os nad ydych wedi clywed gan aelod o dîm Big Circus Media dros y ffôn neu drwy e-bost erbyn hanner nos ar xxx, yna yn anffodus mae eich cais wedi bod yn aflwyddiannus.

Os na allwch wneud cais ar-lein ac yr hoffech i ffurflen gais gael ei phostio atoch neu os oes angen cymorth arnoch, anfonwch e-bost at farmapplication@bigcircus.co.uk gan nodi eich enw llawn, cyfeiriad llawn (gan gynnwys cod post) a rhif ffôn. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn darllen Polisi Preifatrwydd Big Circus Media >

GWYBODAETH AM FFERM LLYNDY ISAF

Fferm 248.40 hectar (613.80 erw) sy’n ymestyn o Lyn Dinas i gopa Moel Dyniewyd yw Llyndy Isaf . Mae’n cynnwys ffermdy pedair ystafell wely (sy’n cael ei adnewyddu ar hyn o bryd), rhandy dwy ystafell wely gyda’r potensial i’w osod ar gyfer gwyliau, dau fwthyn gyda’r potensial ar gyfer llety gwyliau, ynghyd ag amrywiaeth o adeiladau fferm traddodiadol a modern. Prynwyd Llyndy Isaf gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2012 yn dilyn apêl gyhoeddus lwyddiannus, ac mewn partneriaeth â Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru fe recriwtiwyd Ysgoloriaethau tan 2020. Mae’r Ymddiriedolaeth bellach yn barod i osod y fferm ar gyfer tenant newydd er mwyn darparu ffermio, natur a mynediad i gefn gwlad sydd wrth wraidd eu cynllun busnes.

Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais a’ch bod yn cyrraedd diwedd y broses ddethol ac yn ymgymryd â’r denantiaeth, bydd disgwyl i chi ymrwymo i gytundeb tenantiaeth 15 mlynedd yn uniongyrchol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a fydd yn cynnwys talu rhent a chydymffurfio â thelerau’r denantiaeth sy’n dechrau ar neu o gwmpas 31 Hydref 2024. Y berthynas rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r tenant fydd y berthynas landlord/tenant arferol gan gynnwys yr holl rwymedigaethau ac atebolrwydd perthnasol, ac ni fydd gan Big Circus Media na Channel 4 unrhyw atebolrwydd o gwbl mewn perthynas â’r denantiaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y “Manylion Fferm” sydd ar gael yma >

DYDDIADAU ALLWEDDOL A’R BROSES YMGEISIO

Er mwyn gwneud cais rhaid i chi fod yn fodlon ymddangos mewn cyfres deledu a fydd yn cael ei darlledu ar Channel 4. Rhaid i bob ymgeisydd lenwi’r Ffurflen Gais (dolen uchod). Os byddwch yn llwyddiannus ac yn symud ymlaen drwy gam cyntaf y broses ymgeisio, fe’ch gwahoddir i ymweliad safle ar Fferm Llyndy Isaf, fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri naill ai ddydd Mawrth 7fed neu ddydd Mercher 8fed Mai 2024 (byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr union ddyddiad os cewch eich dewis), i ddysgu mwy am y fferm, y denantiaeth a’r gyfres deledu. Mae’n rhaid i chi allu ymrwymo i’r ddau ddyddiad hyn a chi fydd yn gyfrifol am drefnu a thalu am eich taith eich hun i Eryri ar gyfer yr ymweliad hwn. Os ydych wedi cyrraedd cam cyntaf y broses ymgeisio, byddwch yn clywed gennym erbyn dydd Gwener 3 Mai 2024.

Bydd ymgeiswyr dethol a fynychodd yr ymweliad safle yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yng ngham nesaf y broses ymgeisio a fydd yn cynnwys llenwi ail ffurflen gais gyda rhagor o fanylion am eich cefndir, cael gwiriadau ariannol a darparu cynllun busnes, gan gynnwys tendro rhent, ar gyfer Fferm Llyndy Isaf. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno fideo byr i Big Circus amdanynt eu hunain ac efallai y bydd gofyn iddynt gymryd rhan mewn galwad fideo wedi’i recordio gyda Big Circus Media.

Ar ôl ail gam y broses ymgeisio, os byddwch yn cael eich dewis i gymryd rhan yn y Rhaglen, byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn proses ddethol breswyl tair wythnos, a fydd yn cael ei ffilmio ar y safle yn Fferm Llyndy Isaf, fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri (a lleoliadau eraill a hysbysir i chi). Yn ystod y broses hon bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gymryd rhan mewn cyfres o dasgau bywyd go iawn yn ymwneud â ffermio ac yn seiliedig ar ganlyniad y tasgau hyn a chynlluniau busnes yr ymgeiswyr, bydd rhai ymgeiswyr yn cael eu bwrw allan. Bydd un ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei wahodd gan yr aseswyr i lofnodi cytundeb tenantiaeth Fferm Llyndy Isaf.

Bwriedir ffilmio ym mis Medi a Hydref 2024. Os cewch eich dewis, yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn byw oddi cartref yn Eryri mewn llety a drefnwyd ac y telir amdano gan y cwmni cynhyrchu teledu ac i gymryd rhan mewn heriau’n seiliedig ar ffermio.

Mae ceisiadau’n cau am hanner nos, dydd Mercher 21 Ebrill 2024.

YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO

  • Unigolyn neu gwpl / partneriaeth sydd:
  • Yn gallu rhedeg busnes llwyddiannus, dichonadwy a phroffidiol ar Fferm Llyndy Isaf.
  • phrofiad a/neu gymwysterau o ran gweithio gyda da byw.
  • Yn frwd dros ffermio mewn ffordd adfywiol gynaliadwy.
  • Yn barod i ddod yn denant sy’n gweithio mewn gwir bartneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac sydd ag agwedd gadarnhaol at ymgysylltu â ffermwyr a busnesau eraill.
  • Gall fod yn gyfathrebwr llwyddiannus gyda’r gymuned leol a’r cyhoedd.

DOGFENNAU PWYSIG

Darllenwch a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y dogfennau pwysig canlynol sy’n llywodraethu eich cais: